Newyddion Lido Brynaman

Cam arall tuag at y freuddwyd

Ddydd Gwener diwethaf 17 Mawrth fe wnaethom gyflwyno ein cynlluniau diweddaraf, a ddatblygwyd gan y Penseiri Rural Office fel rhan o'n hastudiaeth Hyfywedd Prosiect. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Caffi hyfryd ar y Trac yn Tairgwaith. Roedd hyn yn rhan o'n hymgynghoriad ac ymgysylltu cymunedol ar gyfer y prosiect. Yn bresennol roedd rhanddeiliaid a chefnogwyr y dyfodol, cynrychiolwyr o fusnesau lleol, cynghorwyr, asiantaethau cymorth a gwirfoddolwyr cymunedol. Hefyd yn bresennol oedd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, sydd wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i'r prosiect ysbrydoledig hwn.

Bydd mwy o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cyfarfod agored i gyflwyno cynlluniau i'r gymuned ehangach a gynhelir yn Sinema Brynaman ym mis Mai. Cefnogir y digwyddiadau hyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mwy o fanylion i ddilyn.

Adroddwyd y digwyddiad gan Rob Harries o Wales Online, sydd wedi helpu'n fawr i godi proffil ein prosiect. https://bit.ly/Lidoplans

1

Ariannwyd astudiaeth Hyfywedd y Prosiect gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol gydag arian cyfatebol gan Gyngor Cymuned Cwarter Bach.

1
1

Gadael Ateb

%d blogwyr fel hyn: