Cyfrannu i'r Prosiect Lido

Mae Lido Brynaman neu 'The Baths' fel yr oedd yn cael ei adnabod yn lleol, wedi bod ar gau ers 2010 ac mae mewn cyflwr o esgeulustod. Bydd adfer, adnewyddu a datblygu'r pwll a'r cyfleusterau i gyflawni'r prosiect hwn o ansawdd uchel yn cymryd amser ac arian. Mae amcangyfrifon cynnar yn dweud wrthym y bydd hyn yn costio tua £1miliwn. Rydym yn codi arian o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys grantiau, rhoddion a gwerthu cyfranddaliadau.

Rydym wedi sefydlu tudalen rhoddion gyda CAF (Charities Aid Foundation) lle gellir derbyn cyfraniadau tuag at y lido. Cliciwch ar y ddolen isod os hoffech gyfrannu.

Brynaman Lido Limited: RHOI

Os yw'n well gennych gwrdd â ni i drafod rhodd, er enghraifft os hoffech gael rhan o'r gwaith adnewyddu sydd wedi'i neilltuo ar gyfer rhywun annwyl, cysylltwch â ni drwy e-bost brynamanlido@gmail.com. Wrth i amser fynd yn ei flaen bydd cyfle i noddi, prynu cyfranddaliadau a rhoi tuag at ddatblygiadau penodol.