Roedd Dad bob amser mor falch o'i wreiddiau ym Mrynaman ac yn aml yn siarad am y llawenydd a gafodd wrth ddysgu nofio yn y Lido yn y 40au a'r 50au (roedd yn nofiwr gwych. Llawer gwell na fi a fy mrawd!). Treuliodd ei oes waith yn rhedeg yr adran fathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ond roedd ei gyfeillgarwch gydol oes â chyd-ddisgyblion o Ysgol y Banwen ac Ystalyfera mor bwysig iddo. Byddai wedi bod wrth ei fodd â'r syniad o ailagor y baddonau felly hoffem roi'r casgliad a wnaed yn ei angladd i chi a dymuno'r gorau i chi gyd!
Dyfed Wyn Evans