Hapus i gyhoeddi ein bod wedi derbyn Grant Hyfywedd Prosiect o £10k gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF). Bydd y cyllid yn talu am waith dichonoldeb i ddilysu ein gweledigaeth gyffrous ar gyfer adfywio Lido Brynaman. Bydd dogfennau hanesyddol, ffotograffau ac atgofion gan bobl leol yn helpu i lywio’r gwaith adnewyddu. Cysylltwch os oes gennych chi luniau a straeon i’w rhannu gyda ni. brynamanlido@gmail.com